
Website Cardiff Council
Fel prifddinas Cymru, mae Caerdydd yn tyfu’n gynt nag unrhyw ddinas arall yn Ewrop. Mae Adran Ailgylchu’r Gwasanaethau Cymdogaeth yn chwilio am unigolion deinamig i ymuno â’r tîm ymgysylltu ac ymgyrchoedd gwastraff. Bydd yr unigolion hyn yn gweithio gyda chymunedau lleol yn rhan o’r daith a rennir tuag at ddyfodol diwastraff a Chaerdydd Un Blaned.
Am Y Swydd
Mae pob diwrnod yn wahanol wrth weithio’n swyddog ymgyrchoedd gwastraff. Gallai eich gwaith gynnwys rhoi sgwrs i ysgol neu grŵp cymunedol, casglu data stryd, datblygu cynnwys ar gyfer ein cyfrif cyfryngau cymdeithasol a gwneud pob math o bethau i gadw’r cynllun gwastraff ac ailgylchu’n rhedeg.
Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant ddylunio a chyflwyno rhaglenni gweithgarwch ac ymgyrchoedd sydd â’r nod o:
- leihau/ailddefnyddio gwastraff
- defnyddio deunydd yn adnodd drwy ailgylchu
- grymuso ac annog trigolion i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd/casgliadau/mentrau
Bydd angen i swyddogion ymgyrchoedd gwastraff meithrin perthnasau cryf ac effeithiol ar draws cymunedau a dargedir gyda grwpiau fel trigolion, ysgolion, landlordiaid, myfyrwyr a mwy.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Yn fwy na dim, rydym yn chwilio am frwdfrydedd dilys dros faterion amgylcheddol. Bydd eich rôl yn cynnwys ysbrydoli pobl eraill i newid eu hymddygiad, a bydd angen i chi ddangos eich ymrwymiad i’w hannog i wneud felly.
Mae dealltwriaeth o ddeddfwriaeth, strategaethau ac ymgyrchoedd gwastraff ac ailgylchu perthnasol yn hanfodol.
Bydd gennych sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol a byddwch yn gallu defnyddio amrywiaeth o sianeli cyfathrebu.
Byddwch yn gallu meithrin perthynas yn gyflym gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ac ni ddylech ofni cynulleidfaoedd gan y bydd angen i chi siarad â grwpiau o bobl.
Byddwch yn fedrus o ran TG gyda’r gallu i reoli cyfrifon e-bost a chyfryngau cymdeithasol.
Gwybodaeth Ychwanegol
-
Mae yna nifer o swyddi ar gael
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Mae trwydded gyrru a defnydd o gar yn hanfodol am y swydd yma
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Danielle Williams ar 029 20717558.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVau. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:- o Canllaw ar Wneud Cais o Ymgeisio am swyddi gyda ni o Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:- o Siartr Cyflogeion o Recriwtio Cyn-droseddwyr o Hysbysiad Preifatrwydd
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: ECO00322
Report Job