
Website Cardiff Council
Mae’r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy’n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth.
Mae’r tîm yn ddatblygiad newydd yn y Gwasanaethau Oedolion ac mae’r ddwy swydd yma, Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 8 a Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 7 yn cynnig cyfle i lywio ein darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol. Byddwn ni’n cynnal asesiadau gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth a allai fod ag anghenion gofal a chymorth ac yn trefnu pecynnau gofal a chymorth sy’n briodol i ddiwallu’r canlyniadau a ddymunir gan yr unigolion. Bydd y Tîm hefyd yn cynnal asesiadau pontio ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth ag anghenion gofal a chymorth sy’n pontio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Bydd y tîm yn rhan bwysig o sicrhau bod y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol o dan y Cod Ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth (2021).
Bydd y gwasanaeth sy’n cael ei sefydlu yn cynnwys dau weithiwr cymdeithasol a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r Gweithiwr Cymdeithasol Pontio i Bobl Ifanc sydd wedi’i leoli yn y Tîm Amlddisgyblaethol Digartrefedd a’r Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol Pontio sy’n gweithio gyda Phlant Sy’n Derbyn Gofal sy’n pontio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Mae’r Tîm yn cael ei reoli gan y Rheolwr Tîm sydd â chyfrifoldeb dros gamddefnyddio sylweddau (Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd), digartrefedd a phontio ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.
Mae’r tîm hefyd yn ymrwymedig i ymarfer gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau, a chewch gyfle i ddatblygu’r sgiliau hyn. Mae’r Tîm yn ymrwymedig i feithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu llawn botensial.
Yr hyn y byddwn yn ei gynnig i chi:
- Gwasanaeth sy’n gwerthfawrogi gweithwyr cymdeithasol proffesiynol ac sy’n cefnogi eu hymarfer.
- Dull sefydledig o ymdrin â gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau gyda grwpiau mentor i annog trafodaeth a dysgu proffesiynol mewn sesiynau gwarchodedig.
- Cyfle i ddatblygu eich defnydd o ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau a mentora.
- Goruchwyliaeth reolaidd o ansawdd i gefnogi a chynnal ymarferwyr.
- Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth, gan geisio hyrwyddo’r ymarfer rhagorol a welwn gan ein gweithwyr cymdeithasol.
- Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol a mynediad at ddiweddariadau cyfreithiol ac ymarfer rheolaidd.
Mae ein systemau a’n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid a hyblyg ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol i’w weithwyr.
Am Y Swydd
Gwerthfawrogir ein Gweithwyr Cymdeithasol oherwydd y sgiliau a’r wybodaeth y maen nhw’n cyfrannu at y gwasanaeth. Maen nhw’n allweddol i’r arfer parhaus o ddulliau gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau yng Nghaerdydd.
Bydd y rôl wedi’i lleoli gyda gweithwyr Pontio ac wedi’i lleoli ochr yn ochr â Thîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd a Thîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas (Digartrefedd). Fel Gweithiwr Cymdeithasol, byddwch yn cynnal asesiadau, yn llunio cynlluniau gofal a chymorth gydag unigolion yn nodi eu canlyniadau ac yn comisiynu gofal a chymorth. Bydd gofyn i chi hefyd reoli llwyth achosion prysur.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd a phan fyddwch yn meddu ar gymwysterau priodol bydd disgwyl i chi oruchwylio cydweithwyr tîm heb gymwysterau. Mae disgwyl i Weithwyr Cymdeithasol Gradd 8 oruchwylio cydweithwyr Gradd 7 a staff anghymwys yn ôl y galw. Byddwch yn cefnogi gweithrediad parhaus arferion sy’n seiliedig ar gryfderau ac yn cyfrannu at Sicrwydd Ansawdd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.
Mae’r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy’n datblygu a bydd disgwyl iddo roi cyngor a chymorth i unigolion, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd disgwyl i chi ddatblygu eich gwybodaeth am y materion sy’n effeithio ar y rhai sy’n niwroamrywiol. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddefnyddio arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth gydag unigolion.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
- Profiad o weithio gydag oedolion a chynnal asesiadau gyda’r unigolion hynny sydd angen gwasanaethau cymorth.
- Ymrwymiad i arfer rhagorol gydag unigolion, teuluoedd, Gofalwyr a Chymunedau.
- Sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Hyder a gwybodaeth o ran gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Ar gyfer y swydd Gradd 8 mae profiad o waith a phrosesau’r Llys Gwarchod yn fantais.
- Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion.
- Ymrwymiad i weithio’n agos gyda chydweithwyr mewn tîm gwaith cymdeithasol arbenigol sefydledig ac i weithio’n amlbroffesiynol gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau statudol a gwasanaethau’r trydydd sector.
Gwybodaeth Ychwanegol
Swydd dros dro yw hon tan 1st Awst 2024.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.
Os hoffech gael trafodaeth am y rôl hon, cysylltwch â Sally Davies, Rheolwr Tîm ar 02920788300 (nid wyf yn gweithio ar ddydd Gwener) neu e-bost [email protected]
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn addas ar gyfer trefniadau rhannu swydd.
Mae diogelu oedolion ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor, a’n nod yw cefnogi plant ac oedolion i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y cyngor a phob ysgol.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith interim presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy’r post.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rolau hyn yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rhithwir yna mae croeso i chi gysylltu â Sally Davies ar y cyfeiriad e-bost uchod.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02254
Report Job