
Website Cardiff Council
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau creadigol sy’n annog cyfranogiad a datblygiad pobl ifanc mewn cymunedau.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn hyrwyddo cysylltiad cryf rhwng gwaith ieuenctid targedig a chynhwysol sy’n sicrhau y cynigir cymorth cyson i bobl ifanc pan fo angen hynny arnynt. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn annog pobl ifanc i wireddu eu potensial unigol ac yn eu cefnogi ar eu siwrne i ddod yn ddinasyddion gweithredol cadarnhaol.
Am Y Swydd
Mae cyfleoedd cyffrous wedi dod ar gael yng nghyfarwyddiaeth Addysg Cyngor Caerdydd. Mae’r swyddi’n cael eu hariannu gan grant ac maent yn y Gwasanaeth Ieuenctid.
Byddwch yn rhan o dîm deinamig a brwdfrydig sy’n gweithio â phobl ifanc anghenion cymhleth mewn ysgol uwchradd a benodir i chi. Nod eich rôl fydd ‘hyrwyddo ymgysylltu ag addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli ac yn y pen draw, cyflogaeth, caiff hyn ei wneud trwy amryw ymyriadau.
Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc sydd wedi’i hymylu yn hanfodol i’r rôl hon. Mae ffocws ar arferion sy’n canolbwyntio ar gryfderau ac yn rhoi’r person ifanc yn gyntaf hefyd yn hanfodol. Mae’r tîm yn ymrwymedig i ddull therapi sy’n canolbwyntio ar ddatrysiad byr ac mae hyn wedi’i adlewyrchu mewn gwaith cynllunio, darparu a gwerthuso yn ogystal ag yn y model goruchwylio a chymorth.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Byddwch yn gymwys yn broffesiynol ac wedi’ch cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Byddwch yn rhan o dîm gwaith ieuenctid profiadol sydd â’r dasg o ymgysylltu â’r bobl ifanc hynny sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol.
Bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl ifanc sydd wedi dadrithio, defnyddio rhaglenni arloesol a chreadigol a meddwl y tu allan i’r blwch.
Byddwch yn drylwyr yn eich gwaith trefnu a chadw cofnodion, a bydd gennych brofiad o gofnodi canlyniadau ar system gwybodaeth reoli.
Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gydweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl ifanc ac felly mae angen i chi fod yn hyderus yn eich sgiliau cyfathrebu gyda gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc a meddu ar y gallu i drafod y cwricwlwm anffurfiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflog: £27,678 (T00 Lefel 15)
Mae’r swyddi yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2023.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd ar secondiad gael caniatâd cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgol, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy’r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ffurflenni cais drwy’r post.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: EDU00490
Report Job