
Website Cardiff Council
Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P’un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rhaid i chi fod yn byw yng Nghaerdydd i wneud cais am y rôl hon a gallwch wirio a yw’ch cod post o fewn ffiniau Caerdydd yma: http://ishare.caerdydd.gov.uk/myCardiffWelsh.aspx
Mae Tîm Canolfan Cymunedol Gabalfa y Gwasanaeth Ieuenctid yn gobeithio cyflogi Hyfforddai Corfforaethol – Gweithiwr Ieuenctid i weithio yn y Canolfan Cymunedol Gabalfa Heol Colwill, Caerdydd CF142QQ i gyfrannu at ein Gwasanaeth, gan ein helpu i gynnig darpariaethau gwaith ieuenctid i bobl ifanc 11-25 oed. Mae’r tîm hwn yn cynnwys gweithwyr ieuenctid proffesiynol talentog a brwdfrydig sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r Gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a thimau gwaith ieuenctid ar y stryd gyda phob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau creadigol sy’n annog cyfranogiad a datblygiad pobl ifanc mewn cymunedau.
Mae Canolfan Cymunedol Gabalfa yn ddarpariaeth ieuenctid gymdogaethol sydd Llaneirwg ac mae’n gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed, y mae llawer ohonynt yn byw yng nghymunedau cyfagos Llaneirwg, Trowbridge a Thredelerch. Mae’r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau creadigol a chyffrous i ymgysylltu â phobl ifanc sy’n hyrwyddo sgiliau bywyd, perthnasoedd iach a mynegiant a datblygiad personol.
Mae’n bosib y bydd y rôl hon yn gofyn am weithio gartref a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu’r sgiliau i gefnogi hyn. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.
Am Y Swydd
Yn y rôl Hyfforddai Corfforaethol – Gweithiwr Ieuenctid hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
Datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gyfrannu’n llawn at ein Gwasanaeth a byddwch yn dysgu i ymgysylltu â phobl ifanc a’u cefnogi. Byddwch yn cefnogi’r tîm gyda chynllunio, cyflwyno a gwerthuso digwyddiadau, prosiectau a gweithdai.
Byddwch yn cefnogi’r tîm i gasglu data fel aelodaeth, presenoldeb a chyfranogiad.
Bydd gofyn i chi gyflawni nifer o dasgau TG a bod yn hapus i ddefnyddio cyfrifiadur i greu dogfennau gan ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd.
Fel rhan o dîm sy’n gyfrifol am gefnogi pobl ifanc i ddatblygu yn eu cyfanrwydd, byddwch yn gweithio wyneb yn wyneb â phobl ifanc i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, ac i’w galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle yn y gymdeithas ac i gyrraedd eu llawn botensial.
Caiff hyfforddiant llawn ei roi gan ein tîm fydd yn eich helpu a’ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i’ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae’r Cynllun Hyfforddai a Phrentis Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.
Mae llawer o’n timau wedi symud i fod ar-lein a gweithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu’r sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi, fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).
Er y bydd gennych weithle sefydlog, bydd gofyn i chi weithio o wahanol leoliadau yn unol ag anghenion y rôl. Bydd hyn yn cynnwys gwaith gyda’r nos bob wythnos a gwaith achlysurol ar y penwythnos.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i’n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Mae ein Hyfforddeion Corfforaethol yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i’r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a’i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.
Gwybodaeth Ychwanegol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Craig Bartlett, Uwch Swyddog Ieuenctid, Canolfan Ieuenctid Llaneirwg: 07976056220
I fod yn gymwys i wneud cais am y rôl hon rhaid i chi fod yn byw yng Nghaerdydd. Cadarnhewch fod eich cod post o fewn ffiniau Caerdydd yma http://ishare.caerdydd.gov.uk/myCardiffWelsh.aspx
Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Dyma swydd dros dro am 6 mis os caiff ei gweithio’n llawn amser neu’n hirach os caiff ei gweithio’n rhan amser. Mae’r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos 37 awr er y gellir gweithio llawer o rolau’n rhan-amser.
Mae Tâl Atodol y Cyflog Byw’n berthnasol i’r cyflog hwn sy’n dod â’r gyfradd tâl sylfaenol i £9.90 yr awr. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i Dâl Atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i’r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni’r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio’r rhain i lunio’r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi’i chyfyngu i 4,000 o arwyddnodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.
I gefnogi eich cais, neu gyfweliad posibl yn y dyfodol, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook, Instagram, drwy danysgrifio i’n Sianel YouTube, neu drwy fynd i’n gwefan www.caerdydd.gov.uk . Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau i Mewn i Waith yn www.imewniwaithcaerdydd.co.uk
Job Reference: EDU00487
Report Job